Sioe Nefyn Show

6ed Mai 2024

Sefydlwyd Sioe Nefyn yn 1893 gan griw o ffermwyr lleol oedd am arddangos eu anifeiliaid a’u ceffylau. Cafwyd cae ynghanol tref Nefyn er mwyn cynnal y digwyddiad. Sioe 2024 fydd Sioe rhif 126.

AmserlenDigwyddiadau

Ein Sioe

‘Rydym yn ceisio cael rhywbeth i bawb yn y Sioe – cystadlaethau gwartheg, defaid, ceffylau, cwn, coginio a gwaith llaw. Bydd dosbarthiadau dofednod pan y bydd y rheolau yn caniatau. Bydd stondinau masnach o bob math a stondinau crefft – rhywbeth i bawb.

Arddangos eich Anifeiliaid

Mae gennym amrywiaeth o ddosbarthiadau gan gynnwys da byw, coginio, cŵn, a chrefft.

Digwyddiadau

Mae’r Sioe yn ddigwyddiad gwych i’r teulu, ac mae gennym ni amrywiaeth o atyniadau a stondinau bob blwyddyn.

Pabell Arddangoswyr

Mae ein pabell Arddangoswyr yn hynod boblogaidd, ac yn werth ymweld â hi os nad ydych yn cystadlu.

Lleoliad

Cynhelir y Sioe eleni eto ar gaeau bendigedig Botacho Wyn, Nefyn LL53 6HA drwy garedigrwydd teulu Botacho Wyn.

‘Rydym yn ffodus iawn o gael defnyddio y safle arbennig yma sydd a golygfa arbennig o Ben Llyn ac yn hynod ddiolchgar i’r teulu am ein galluogi i ddefnyddio’r safle.

Digwyddiadau

Mae gennym amrywiaeth o atyniadau a digwyddiadau ar gyfer sioe 2023, gan gynnwys ceir vintage a thractorau, Welsh Whisperer a’r Band, adar ysglyfaethus, ffair a gweithgareddau i blant.

Byddwch yn rhan o'n Sioe

AmserlenCysylltwch