Amdanom

Sefydlwyd Sioe Nefyn yn 1893 gan griw o ffermwyr lleol oedd am arddangos eu anifeiliaid a’u ceffylau. Cafwyd cae ynghanol tref Nefyn er mwyn cynnal y digwyddiad. Sioe 2023 fydd Sioe rhif 125.

Am rai blynyddoedd bu yn sioe symudol gyda sawl safle yn ardal Nefyn a Morfa Nefyn. Bellach, ers 35 o flynyddoedd, mae’r Sioe wedi bod yn sefydlog yn Botacho Wyn, Nefyn.

Yn draddodiadol yn Sioe Dydd Llun y Pasg, cymerwyd y penderfyniad i symud i Wyl y Banc Mis Mai yn 2004. Felly cynhelir Sioe Nefyn ar Ddydd Llun Gwyl Banc Mis Mai yn flynyddol.

Sioe Nefyn yw’r gyntaf ar galendr y Sioeau ac yn cychwyn y flwyddyn sioeau.

‘Rydym yn ceisio cael rhywbeth i bawb yn y Sioe – cystadlaethau gwartheg, defaid, ceffylau, cwn, coginio a gwaith llaw. Bydd dosbarthiadau dofednod pan y bydd y rheolau yn caniatau. Bydd stondinau masnach o bob math a stondinau crefft – rhywbeth i bawb.

Mae’r Pwyllgor, er yn fychan o ran nifer, yn un gweithgar iawn.

Ymlaen i’r 125 mlynedd nesaf!